Ein hymgyrchoedd

Y mae Grŵp Caerdydd Amnest Rhyngwladol yn cefnogi ymgyrchoedd cenedlaethol yn ogystal â chynnal ffeil ymgyrch leol ar y newyddiadurwr "diflannedig" o Algeria, Djamel Fahassi.

Ceir dolenni i'n hymgyrchoedd cyfredol i gyd, ar y chwith.

Ymgyrchoedd blaenoriaethol 2007 Amnest Rhyngwladol y DU

Atal trais yn erbyn menywod

Atal trais yn erbyn menywod - Bydd yr ymgyrch yn parhau tan canol 2007 gan ffocysu ar fasnachu mewn pobl dros y misoedd nesaf.

Terfysgaeth a diogelwch

Terfysgaeth a diogelwch - Dengys tystiolaeth fod llawer o wledydd, gan gynnwys yr Aifft, Syria, Affganistan a'r Unol Daleithiau'n defnyddio poenydio a cham-driniaeth o dan orchudd y "rhyfel yn erbyn terfysgaeth". Rhaid i'r troi at boenydio ddod i ben.

Ffoaduriaid a lloches

Ffoaduriaid a Lloches - Mae Amnest yn drwgdybio i dros 25,000 o bobl sydd wedi ceisio am loches gael eu dal yn 2004 o dan bwerau'r Ddeddf Fewnfudo. Mewn sawl achos, roedd eu carcharu'n amhriodol ac anghyfreithiol. Rydyn yn ymgyrchu i greu sustem loches deg ac effeithiol.


Djamel Fahassi

Djamel Fahassi. Newyddiadurwr o Algeria yw Djamel Fahassi a "ddiflannodd" ar ôl cael ei arestio yn Algiers ym 1995. Rydyn ni'n ysgrifennu'n rheolaidd at yr awdurdodau yn Algeria i geisio cael hyd i wybodaeth ynghylch Djamel, beth ddigwyddodd iddo a ble mae o erbyn hyn.


Gweithredwch yn awr!

Ffîd gweithredoedd cyfredol (yn Saesneg) gan Amnest Rhyngwladol y DU yw'r canlynol. Cliciwch ar y teitl am ragor o wybodaeth am yr achos a sut gewch chi gynorthwyo yn awr.

Valid XHTML 1.0 Strict

Valid CSS!

Cyfieithiad ac addasiad o safwe Amnest Caerdydd gan Peter Bradley (h) 2007 Peter Bradley GPL v3 Cyhyrchwyd ar Bluefish 1.0.2 ar SUSE Linux 10.0

Ymgyrchoedd