Mae'r farchnad arfau allan o bob rheolaeth ac yn cynnau gwrthdaro, tlodi a throseddau'n erbyn hawliau dynol tryw'r byd. Ar bob llywodraeth mae'r bai am hyn. Y mae Oxfam, Amnest a'r Rhwydwaith Gweithredu Rhyngwladol ar Fân Arfau (IANSA) yn ymgyrchu dros Gytundeb Masnach Arfau byd eang i ddod â'r farchnad mewn arfau dan reolaeth.
Mae'r Ymgyrch Rheoli Arfau wedi llwyddo i gasglu mil o wynebau'n neges cefnogaeth byd eang, cryf am Gytundeb Masnach Arfau rhyngwladol.
Cyflwynwyd y Ddeiseb Mil o Wynebau i Ysgrifennydd Cyffredinol y CU, Kofi Annan, ar ddiwrnod agoriadol Cynhadledd Arolygu Mân Arfau'r CU yn Efrog Newydd (26 Mehefin, 2006). Gwnaed y cyfwyno gan Julius Arile, un a oroesodd trais arfog yng Nghenya, a'r miliynfed person i arwyddo'r ddeiseb.
Cewch ychwanegu ffotograff o'ch wyneb chi i'r ddeiseb Miliwn o Wynebau o hyd.
Ar ôl ymgyrchu am dair blynnedd o gwmpas y byd, cafodd yr ymgyrch Rheolu Arfau fuddugoliaeth fawr pan bleidleisiodd 139 o lywodraethau o blaid penderfyniad y CU i ddechrau gwaith tuag at Gytundeb Masnach Arfau (dim ond yr UD a bleidleisiodd yn erbyn). Sefydlir yn awr Grŵp Arbennigwyr Llywodraethol i edrych i mewn i'r sail am gytundeb o'r fath. Llongyfarchiadau i bob un o gefnogwyr Rheoli Arfau am gael canlyniad mor eithriadol o wych!
Ceir rhagor o wybodaeth am yr ymgyrchu a gweithredoedd cyfredol ar dudalen gartref yr ymgyrch.
Cyfieithiad ac addasiad o safwe Amnest Caerdydd gan Peter Bradley (h) 2007 Peter Bradley GPL v3 Cyhyrchwyd ar Bluefish 1.0.2 ar SUSE Linux 10.0