Croeso i Grŵp Caerdydd Amnest Rhyngwladol

Stondin Amnest

Dyma hafan wefan Grŵp Caerdydd Amnest Rhyngwladol y DU, sy'n rhan o'r mudiad byd-eang Amnest Rhyngwladol. Grŵp gweithgar ydyn ni, wedi ein lleoli yng Nghaerdydd, prifddinas Cymru, yn y DU.

Bydd y grŵp yn cyfarfod yr ail ddydd Llun o bob mis (ac eithrio Awst a Gwyliau Banc) am 7:30p.m. Cynhelir y cyfarfodydd yn Nhŷ Cwrdd y Cyfeillion (lawr y grisiau yn yr ystafell gyfarfod), Stryd Siarl, yng nghanol Caerdydd, gwaith 10 munud o gerdded o'r Orsaf Ganolog a Gorsaf y Bysiau. Croeso i bawb. Gweler tudalen y dyddiadur am fanylion y cyfarfodydd sy'n dod.


Bydd cyfarfod nesaf y grŵp ar yr 11eg Chwefror pan fydd Julie Morgan AS, ein siaradwraig wâdd, yn siarad am ei thaith ddiweddar i Israel a Phalestina.

Ceisiwch gael gynifer â medrwch chi o aelodau a chefnogwyr yno, da chi.


'Rydyn ni ynglwm wrth nifer o ymgyrchoedd Amnest Rhyngwladol - beth am gael mwy o wybodaeth a chymryd rhan?

Pe hoffech ddarganfod mwy am Amnest Rhyngwladol a grŵp Caerdydd, cymerwch dro o gwmpas y safwe - ac os oes rhagor o gwestiynau gennych, sgwennwch ebost aton ni.

Diweddariad diwethaf: 29 Ionawr, 2008

English Version

Valid XHTML 1.0 Strict

Valid CSS!

Cyfieithiad ac addasiad o safwe Amnest Caerdydd gan Peter Bradley (h) 2007 Peter Bradley GPL v3 Cyhyrchwyd ar Bluefish 1.0.2 ar SUSE Linux 10.0