Newyddion Grŵp Caerdydd Amnest

Hefyd yn Gymraeg

Y mae safwe Amnest Caerdydd yn awr ar gael yn Gymraeg, gyda diolchiadau i Peter Bradley. Noder na fydd y safwe i'w weld os ydych yn dal i ddefnyddio Internet Explorer 6 (neu gynharach). Cewch ddefnyddio IE7 neu borydd arall megis Firefox, Safari neu Opera.

Safwe Amnest Caerdydd yn Gymraeg

Adroddiad cyfarfod mis Tachwedd

Yn nauganmlwyddiant dileu caethwasiaeth, roedd ein cyfarfod mis Tachwedd am fasnachu mewn menywod yn atgoffhâd cryf mae realiti brawychus yw caethwasiaeth i lawer o hyd. Wedi seilio ei sgŵrs ar adroddiad diweddar Amnest Rhyngwladol, "O dan y Gorchudd" (Under the Covers), cawson ni'r fraint o gael clywed Leanne Wood, Aelod y Cynulliad dros Plaid Cymru yn traddodi sgŵrs yn ein cwmni.

Llun adroddiad Under the Covers

Lawrlwytho Adroddiad Amnest Cymru ar fasnachu pobl ar gyfer y farchnad ryw (pdf)

Gofyn i Lywodraeth Cynulliad Cymru estyn cymorth i ddiodefwyr masnachu pobl yng Nghymru

Adroddiad cyfarfod mis Hydref

Cynnau 22 canwyll i ddynodi'r 22 sy'n cael eu dienyddio bob dydd yn Tseina

Ein siaradwr gwâdd fis Hydref oedd Mike Lewis, Prif Weithredwr Cyngor Ffoaduriaid Cymru. Siaradodd am waith y gymdeithas gyda cheiswyr lloches a ffoaduriaid yng Nghymru sy'n wynebu amddifadedd, tynnu triniaeth feddygol ac estraddodiad i wledydd lle nad ydynt yn ddiogel unwaith caiff eu ceisiadau eu gwrthod. Yn aml digwydd hyn o achos proses sy'n ei gwneud hi bron yn amhosibl i lawer ufuddhau.

Bu i'r grŵp hefyd nodi'r Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn y Gosb Eithaf (10fed Hydref), drwy gynnau dau ganwyll ar hugain i ddynodi'r ddau berson ar hugain a ddienyddir yn feunyddiol yn Tseina. Y mae amcangyfrifon dibynnadwy yn rhoi'r cyfanswm at dros wyth mil o bobl: mwy na gweddill y byd gyda'i gilydd.

Adroddiad cyfarfod mis Medi

Cychwynnodd ein tymor newydd yn dda gyda'n siaradwr gwâdd Bernard O'Hear, cydlynydd Tseina Amnest. Traddododd araith ddiddorol iawn ar sefyllfa hawliau dynol yn Tseina, y gwaethaf yn y byd lle mae dienyddio yn y cwestiwn. Amcangyfrifir y cedwir tri chan hyd at bedwar can mil yn y ddalfa. Caiff y gosb eithaf ei defnyddio ar gyfer troseddau bychain; ac ystyriaethau economaidd yw'r pethau sy'n gyrru'r gosb eithaf yn Tseina.

Siaradodd hefyd am:

Er ei bod hi'n ymddangos bod y gorllewin yn anfodlon beirniadu Tseina oherwydd y manteision economaidd y mae cysylltiadau gyda'r wlad yn eu cynnig, teimlodd Bernard y byddai pwysau'r cyhoedd yn dylanwadu ar y llywodraeth, a chynigiodd y Gemau Olympaidd gyfle i wneud felly.

Bydd ymgyrch Amnest yn rhedeg tan ar ôl y Gemau Olympaidd, gan ganolbwyntio ar bedwar prif faes:

Taith noddedig

Diolch i'r criw fechan (gwaetha'r modd) o gerddwyr a fentrodd i'r Bannau Brycheiniog y mis yma ar gyfer ein taith noddedig flynyddol.

Rydyn ni'n disgwyl y byddwn ni wedi codi dros £400.00 a gwnawn edrych am ffyrdd i ysgogi mwy o gerddwyr y flwyddyn nesaf (croeso i unrhyw syniadau).

Ymgyrch Tseina

Ein prif ymgyrch dros y flwyddyn nesaf fydd i daflu goleuni ar droseddau'n erbyn hawliau dynol yn Tseina, yn y cyfnod i fyny at y Gemau Olympaidd yn 2008.

Byddwn yn cynnau dau gannwyll ar hugain yn ein cyfarfod mis Hydref i ddynodi'r ddau berson ar hugain a ddienyddir bob dydd yn Tseina - yn ôl amcangyfrifon dibynnadwy, hyd at 8,000 bob blwyddyn: mwy na chyfanswm dienyddiadau gweddill y byd gyda'i gilydd.

Byddwn yn tynnu lluniau o'r digwyddiad i'w hanfon at y gweisg lleol, i roi cyhoeddusrwydd i Ddiwrnod Rhyngwladol yn erbyn Dienyddio, ar 10fed Hydref.

Valid XHTML 1.0 Strict

Valid CSS!

Cyfieithiad ac addasiad o safwe Amnest Caerdydd gan Peter Bradley (h) 2007 Peter Bradley GPL v3 Cyhyrchwyd ar Bluefish 1.0.2 ar SUSE Linux 10.0

Newyddion a digwyddiadau