Y mae Amnest Rhyngwladol yn erbyn y gosb eithaf am ei bod yn tramgwyddo dau hawl dynol sylfaenol, fel y'u traddodwyd yn Erthyglau 3 a 5 Datganiad Cyffredinol Hawliau Dynol:
Mae dienyddio, fel ffurfiau corfforol artaith, yn peri ymosodiad bwriadol ar garcharor. Yr unig wahaniaeth yw y pery'r ymosodiad hyd at farwolaeth berson.
Nid oes lle i'r gosb eithaf mewn cyfundrefn gyfiawnder troseddol gyfoes. Dyw'r gosb eithaf ddim yn rhwystr effeithiol. Am fod pob cyfundrefn farnwrol yn methu ac oherwydd ei natur di-droi'n-ôl, mae'r gosb eithaf yn lladd unigolion diniwed sy'n cael eu collfarnu ar gam. Mae'r gosb eithaf yn troi cymdeithas yn fwystfil ac yn magu di-ystyriaeth o fywyd dynol.
Cynnwys ein gweithgareddau ymgyrch ysgrifennu llythyrau ar ran carcharorion sy'n wynebu'r gosb eithaf a rhoi pwysau ar lywodraethau ledled y byd i symud tuag at ddileu'n llwyr y gosb eithaf.
O'r cychwyn cyntaf mae gwrthwynebu'r gosb eithaf yn achos carcharorion gwleidyddol wedi bod yn rhan o weledigaeth Amnest. Dros amser, mae ein gwrthwynebiad wedi lledu er mwyn cynnwys unrhywun o dan ddedfryd marwolaeth.
Ym 1971 gofynnon ni i'r Unol Daleithiau a Chyngor Ewrop wneud pob ymdrech posibl i gael dileu'r gosb eithaf ledled y byd. Chwe blynnedd yn ddiweddarach trefnon ni Gynhadledd Ryngwladol ar y Gosb Eithaf yn Stockholm. Ym 1977, dim ond 16 gwlad oedd wedi cael gwared o'r gosb eithaf ar gyfer pob trosedd. Erbyn heddiw, 80 yw'r ffigur cyfatebol. Ym 1989 trefnon ni ymgyrch fyd-eang yn erbyn y gosb eithaf.
Gweithiwn am gael gwared o'r gosb eithaf o hyd, wrth fonitro'n rheolaedd datblygiadau, casglu gwybodaeth trwy'r byd i gyd ac wrth drefnu rhaglen gyfredol o waith yn erbyn y gosb eithaf gan gyd-weithio gyda mudiadau hawliau dynol eraill a llywodraethau.
Yn y flwyddyn 2000, gyda chymuned Sant'Egidio a'r Chwaer Helen Prejean o'r prosiect Ataliad 2000, cyflwynon ni fwy na thair miliwn o lofnodau i Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Kofi Annan, yn cefnogi ataliad ar y gosb eithaf gan edrych ymlaen at ei dileu'n llwyr dros y byd i gyd.
Mae ein hymgyrch bresennol yn canolbwyntio ar roi stop ar ddienyddio troseddwyr ifainc - y sawl a fu o dan 18 oed pan gyflawnwyd y drosedd. Gwaherddir dienyddio plant o dan gyfraith ryngwladol, ac ers Mai 2005 - pan ddyfarnodd Llys Uchaf yr Unol Daleithiau fod yr ymarfer yn erbyn y cyfansoddiad - mae pob gwlad yn gytûn ar hyn. Mae yna ychydig o wledydd, serch hynny, sy'n dyfarnu plant i farwolaeth o hyd.
Ers 2000, rydyn ni wedi cofrestru 26 achos o ddienyddio plant dros bump gwlad, Pakistan, Tseina, Iran, Gwladwriaeth Ddemocrataidd y Congo a'r Unol Daleithiau. Dyfarnodd Llys Uchaf yr UD yn 2005 fod deinyddio troseddwyr ifainc yn anghyfansoddiadol. Canfodwch ragor am benderfyniad Llys Uchaf yr UD. Rydym yn rhedeg ymgyrch i roi stop ar ddienyddio troseddwyr ifainc, dros y byd. Ar Iran a Phakistan y mae ffocws yr ymgyrch.
Am ragor o fanylion am wrthwynebiad Amnest i'r gosb eithaf, gweler tudalennau ARhDU ar y gosb eithaf
Cyfieithiad ac addasiad o safwe Amnest Caerdydd gan Peter Bradley (h) 2007 Peter Bradley GPL v3 Cyhyrchwyd ar Bluefish 1.0.2 ar SUSE Linux 10.0