Rhwydwaith Gweithredu Brys

Ysgrifennu llythyr

Y mae nifer o aelodau Grŵp Caerdydd hefyd yn aelodau'r rhwydwaith gweithredu brys, sy'n rhoi ar waith rhwydwaith o aelodau parod i weithredu ar frys i amddiffyn pobl y mae eu bywydau neu eu diogelwch corfforol yn y fantol.

Mae ymchwilwyr ym mhencadlys Amnest yn rhoi at ei gilydd achoslen weithredu brys gyda manylion yr unigolion dan sylw. Cynnwys hyn wybodaeth am eu sefyllfa, argymhellion am beth i'w gynnwys yn yr apêl a sut i'w geirio. Y mae hefyd yn cynnwys manylion swyddogion y llywodraeth. Danfonir yr achoslen hon yn fuan at ein swyddfeydd cenedlaethol am ei dosbarthu'n syth i'r rhwydwaith.

Gellir rhoi y rhwydwaith ar waith mewn ymdrech i amddiffyn carcharor rhag artaith neu unrhyw ffordd o gam-driniaeth, esgeuluso meddygol, prawf anheg, y gosb eithaf farnwrol neu ddienyddio y tu allan i'r sustem gyfreithiol; neu rag estraddodi lle gall dychwelyd gorfodol i wlad yr unigolyn arwain at dorri hawliau dynol pellach.

Gellir ffurfio gweithred frys mewn achosion sy'n dangos patrwm o gyfres o dramgwyddiadau, lle bydd y weithred frys yn canolbwyntio ar amddiffyn grŵp cymdeithasol penodol (ethnig, gwleidyddol neu alwedigaethol).


Darganfod mwy

Gweler tudalen gweithredu brys Amnest y DU am ragor o fanylion.

Valid XHTML 1.0 Strict

Valid CSS!

Cyfieithiad ac addasiad o safwe Amnest Caerdydd gan Peter Bradley (h) 2007 Peter Bradley GPL v3 Cyhyrchwyd ar Bluefish 1.0.2 ar SUSE Linux 10.0

Ymgyrchoedd