Archif newyddion Grŵp Caerdydd Amnest

Gorffennaf 2007

Medi 9fed - Taith Gerdded noddedig

Ar ôl ymateb siomedig i'n harolwg barn (gweler isod), bydd y daith gerdded eleni'n dychwelyd i Bontiscill. Ceir manylion llawn ar y dudalen wybodaeth sy'n cynnwys ffurflen noddi.

CCB

Roedden ni'n falch o gael cyhoeddi mai Janice Foxley a Jenny Pickstone yw'r ysgrifennydd a chadeirydd newydd yn sgîl y CCB. Diolch o'r galon i Linda am ei gwaith di-flino fel ysgrifennydd! Mae Voirrey Thorstein yn parhau fel trysorydd.

Mehefin 2007

Taith Gerdded Noddedig

Eleni bydd ein taith gerdded noddedig flynnyddol yn cymryd lle ar 9fed Medi. Llynedd codon ni dros £1,000.00, ac i ddeni noddwyr unwaith eto, byddwn yn cynnig poteleidiau o win a gwobrau eraill i rai noddwyr ffortunus sy'n cael eu dewis allan o het.

Carem hefyd agor y dewis o daith gerdded i'r aelodau

Opsiwn 1 - Parc Gwledig Cefn Onn
Taith gerdded leol yw'r opsiwn cyntaf, fydd yn dechrau ym Marc Cefn Onn ger y Ddraenen. Bydd y daith 8 milltir yn cymryd i fewn golygfeydd Caerdydd a chefn gwlad amrywiol Comin Caerffili a Rhydri.

Opsiwn 2 - Cronfa Ddŵr Pontiscill
Am y rheini sy'n ffansïo rhywbeth bellach i ffwrdd, bydd y daith 9 milltir hon yn cychwyn wrth Gronfa Ddŵr Pontiscill gyda chefndir trawiadol y Bannau Brycheiniog. 'Does yr un llethr serth o bwys i'w ddringo, ac y mae'r daith yn cynnwys saib am ginio.

Optiwn 3 - Ogwr neu Southerndown
Rydyn ni wedi cerdded y ddau opsiwn cyntaf ill dau, yn ddiweddar, felly rhywbeth newydd yw'r trydydd opsiwn: taith hyd yr arfordir ger traethau godidog Ogwr neu Southerndown.

Pleidleisiwch yn syth!

A wnewch ebostio'ch pleidlais erbyn 30eg Mehifin at:

amnesty.cardiff@btinternet.com

Byddwn yn rhoi gwybod i bawb fis Gorffennaf ble bydd y daith yn cymryd lle, ac edrychwn ymlaen at weld gymaint ohonoch chi ag sy'n bosibl.

Cysgu allan

Y mae cannoedd os nad miloedd o bobl sydd wedi dod i Gymru i geisio lloches yn cael eu gorfodi i fewn i amddifadedd. Mae Amnest Rhyngwladol ynglŵm wrth yr ymgyrch Yn Ddynol o Hyd ac Yma o Hyd a bydd yn cefnogi Nosweithiau Cysgu Allan ar draws y DU er protestio yn erbyn polisïau'r llywodraeth sy'n wthio pobl i dlodi di-dostur. Bydd cysgu allan Caerdydd ar 6ed Gorffennaf. Ebostiwch wales@amnest.org.uk os hoffech gymryd rhan.

Swyddfa Newydd - Tîm Newydd?

Y mae Amnest Cymru wedi symud i Temple Court,a fu unwaith yn synagog, ar Heol y Cadeirlan. Y maen nhw hefyd ar fin hysbysebu swydd ran amser newydd a swyddi gwirfoddolwyr newydd - a fydd i gyd ar safwe Amnest Cymru. Daliwch i edrych os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio neu wirfoddoli dros Amnest Rhyngwladol.

E-zine

Gwnewch yn siwr eich bod chi'n arwyddo ar gyfer e-zine (e-grawn?) aelodau Cymru. Ebostiwch sct@amnesty.org.uk i sicrhau eich bod chi'n derbyn y diweddariad misol ar gyfer aelodau Cymru'n arbennig.

Ebrill 2007

Masnachu mewn pobl

Y mae Amnest Cymru wedi bod yn gweithio ar adroddiad ar fasnachu mewn pobl ar gyfer y farchnad ryw yng Nghymru, sy'n rhoi cip brawychus i mewn i ddiwydiant eithaf cyffredin. Maen nhw'n gobeithio cyhoeddi'r adroddiad fis Mai, ac mi fyddan nhw wedyn yn datblygu ymgyrch er sicrhau bod y sawl sy wedi dioddef yn derbyn gwell cefnogaeth.

O bosib bydd rhai ohonoch wedi darllen am y Brydain Gaeth, arddangosfa ffotograffiau sydd ar hyn o bryd i'w weld yn Eglwys Gadeiriol San Paul. Gobeithiwn ni ddod â'r arddangosfa i Gaerdydd fis Mai, mewn cyd-weithrediad â'r Eglwys yng Nghymru. Bydd rhagor o fanylion yn dilyn.

Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches

Y mae'r ffocws wrth agoshau at yr etholiadau wedi bod ar gael rhywbeth ymarferol wedi'i gytuno gan y pleidiau er hwyluso mynediad at wasanaethau ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches; a chewch weld yr hyn sydd wedi'i gyflawni ar safwe Cadwn Groeso.

E-zine Cymru

Y mae Cathy a'i thîm wedi cyhoeddi'n ddiweddar fersiwn cyntaf Cymru'r e-zine i aelodau. Fersiwn wedi'i olygu o'r un sy'n mynd at bob aelod ydio, gyda diweddariadau ar ddigwyddiadau wedi'u lleoli yng Nghymru.

I danysgrifio, ymunwch â My Amnesty ar safwe ARhDU, a gofyn cael derbyn yr e-zine Cymreig. Mwyaf yn y byd o aelodau sydd wedi'u cofrestru gyda chyfeiriadau ebost, hawsaf yn y byd bydd hi i gysylltu â phobl yng Nghymru i gefnogi ymgyrchoedd a digwyddiadau wedi'u lleoli yng Nghymru.

Mawrth 2007

Cyngerdd Joan Baez

Rydyn ni'n hapus iawn i gael adrodd i Amnest gael eu gwahodd i gasglu arian mewn cyngerdd gan Joan Baez, a chodwyd y swm anhygoel o £669.00 dim ond trwy ysgwyd ychydig o fwcedi!

Diolch i bawb a cynorthwyodd.

Valid XHTML 1.0 Strict

Valid CSS!

Cyfieithiad ac addasiad o safwe Amnest Caerdydd gan Peter Bradley (h) 2007 Peter Bradley GPL v3 Cyhyrchwyd ar Bluefish 1.0.2 ar SUSE Linux 10.0

Newyddion a digwyddiadau