Beth yw Amnest Rhyngwladol?

Mudiad byd-eang, gwirfoddol o bobl sy'n ymgyrch dros hawliau dynol yw Amnest Rhyngwladol.

Rydym yn annibynnol o unrhyw lywodraeth, ideoleg gwleidyddol, diddordeb economaidd neu grefydd.

Ein gweledigaeth yw byd lle bydd pawb yn mwynhau pob un o'r hawliau dynol ymgorfforwyd yn y Datganiad Cyffredinol ar Hawliau Dynol a safonau hawliau dynol rhyngwladol eraill.

Ein cenhadaeth ni

Fel nifer o gymdeithasau eraill, cawn ein hebrwng gan genhadaeth, sy'n rhychwantu'r hyn rydyn ni'n ei wneud. Mae'n gymorth inni wrth ddifinio ein gwaith a chanolbwyntio ein hegni er mwyn ein gwneud ni'n fwy effeithiol.

Eglura ein cenhadaeth y ddwy brif ffordd o ymgyrchu sydd gennym:

Gweledigaeth a Chenhadaeth Amnest Rhyngwladol yn llawn.


Beth yw rôl Grŵp Caerdydd Amnest Rhyngwladol?

Yn unol â bod yn gysylltiedig ag Adran Amnest y DU (AIUK), byddwn yn cefnogi'r gymdeithas fyd-eang drwy:

Os oes gennych ddiddordeb mewn helpu gydag unrhyw o'r rheiny, byddwch gystal â'n ebostio ni.


Ble mae'r grŵp yn cyfarfod?

Bydd y grŵp yn cyfarfod ar ail Nos Lun y mis am 7:30p.m. yn Nhŷ'r Cyfeillion, Stryd Siarl. Mae hwn yng nghanol dinas Caerdydd, oddi ar Heol y Frenhines (y stryd gefn rhwng Marks & Spencer a Burger King). Mae gennym gymysgedd o oedrannau a chefndiroedd, ac y mae croeso bob amser i aelodau newydd.

Ceir dyddiadur y cyfarfodydd sy'n dod ar dudalen y dyddiadur.


Gwybodaeth Bellach


Valid XHTML 1.0 Strict

Valid CSS!

Cyfieithiad ac addasiad o safwe Amnest Caerdydd gan Peter Bradley (h) 2007 Peter Bradley GPL v3 Cyhyrchwyd ar Bluefish 1.0.2 ar SUSE Linux 10.0

Amdanon Ni