Erys y sefyllfa hawliau dynol yn Algeria yn ddifrifol iawn gyda lladd dinasyddion gan grŵpiau arfog, y fyddin a grŵpiau militaraidd wedi'u harfogi gan y llywodraeth yn gyffredin. Y mae degau o filoedd o bobl wedi cael eu lladd ers cychwyn y gwrthdaro hwn ym 1992. Mae miloedd wedi "diflannu" ar ôl cael eu cymryd i ffwrdd gan y lluoedd diogelwch ac y mae miloedd wedi'u cipio a'u lladd gan grŵpiau arfog a'u cyrff heb eu darganfod byth. Y mae cannoedd o filoedd wedi'u hanafu mewn ymosodiadau treisgar, wedi'u poenydio neu wedi dioddef galar colli aelod o'r teulu.
Y mae Grŵp Caerdydd ynglwm wrth weithgareddau cyfredol i ddod â'r "diflaniadau" yn Algeria i sylw'r cyhoedd, ai y llywodraeth sy'n gwneud neu grŵpiau eraill, ac i ysgrifennu llythyrau at yr awdurdodau yn Algeria i fynegi'n pryderon.
Yn ddiweddar, yr ydyn ni wedi ysgrifennu at Lywodraeth Prydain yn mynegi ofnau yngylch nifer o ddynion Algeria o dan fygythiad o gael eu hestraddodi, am fod Amnest yn credu eu bod mewn perygl gwirioneddol o gael eu cam-drini neu'u harteithio.
Dros y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi bod yn gweithio ar ran unigolyn arbennig a ddiflannodd yn ystod y cyfnod hwn. Djameleddin (Djamel) Fahassi ydi'i enw, newyddiadurwr a dyn priod gydag un plentyn. Fe ddiflannodd ar 6ed Mai, 1995, ar ôl cael ei arestio y tu allan i gaffi yn ardal al-Harrach (maesdref Algiers) gan dri dyn â radios symudol. Fe'i gorfodwyd i mewn i gar ac nad ydio wedi cael ei weld oddi ar hynny.
Y mae ein ffocws ni wedi bod yn ddeublyg:
Cysylltwn yn rheolaidd gyda gwraig Djamel, Safia, sy'n aelod grŵp o bobl yn Algeria sydd i gyd â pherthnasau neu gyfeillion "diflanedig". Mae ei hebyst yn darlunio bywyd bob dydd ac ymgyrchu di-flino, sydd o hyd yn ysbrydoliaeth i'r rhai sy'n gweithio ar ei achos. Am fanylion gweithgareddau'r grŵp i nodi'r deng mlynnedd ers ei ddiflaniad, gweler ein hatodiad newyddion Algeria
Am adroddiadau diwethaf Amnest ar Algeria gweler tudalen llyfrgell Amnest Rhyngwladol
Cyfieithiad ac addasiad o safwe Amnest Caerdydd gan Peter Bradley (h) 2007 Peter Bradley GPL v3 Cyhyrchwyd ar Bluefish 1.0.2 ar SUSE Linux 10.0